Beth yw cyllid LEADER?

Leader Logo

Defnyddir yr ymagwedd ‘LEADER’ i annog pobl i gymryd rhan mewn gwella a datblygu eu cymunedau gwledig eu hunain. Mae'r acronym LEADER yn dod o'r geiriau Ffrangeg “Liaison Entre Actions de Développement de l’Économique Rurale” sy'n golygu ‘Cysylltiadau rhwng yr economi wledig a gweithredoedd datblygu’. Y syniad oedd defnyddio egni ac adnoddau pobl a chyrff a allai gyfrannu i'r broses datblygu gwledig trwy ffurfio partneriaethau rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.

Rhaid i weithgareddau dan LEADER fod yn gysylltiedig ag un o'r pum thema ganlynol:

Ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol:  Byddai prosiectau dan y thema hon yn cynnwys unrhyw weithgaredd a fyddai'n annog preswylwyr lleol i gymryd ymagwedd actif at wella eu hamgylchedd lleol a/neu hyrwyddo mwy o dwristiaeth.

Hwyluso datblygiad cyn-fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwi byr:  Dan y thema hon, bydd prosiectau'n gweithio at greu amgylchedd llawn menter sy'n cynnal ac yn annog twf mentrau bach a chymdeithasol newydd a rhai presennol yn CNPT wledig.

Archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol:  Gyda mwy a mwy o bwysau ar gyllidebau awdurdodau lleol, mae mwy o angen nag erioed i ganfod ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau a gyflwynwyd yn gyhoeddus yn y gorffennol nad ydynt yn ofyniad statudol. Bydd prosiectau sy'n dod o dan y categori hwn yn galw am ymagweddau newydd ac arloesol.

Ynni adnewyddadwy i gymunedau:  Dan y thema hon, bydd prosiectau'n mwyafu'r potensial o economi werdd yn CNPT, gan gynnwys peilota ac annog gosod technoleg ynni adnewyddadwy i gyfrannu i ddatblygiad cynaliadwy ardaloedd gwledig.

Manteisio ar dechnoleg ddigidol:  Wrth barhau i gyflwyno band eang hynod gyflym, mae cyfle gwych i gymunedau gwledig CNPT ddefnyddio'r adnodd hwn i dderbyn y budd mwyaf ohono. Bydd angen i brosiectau annog a chefnogi preswylwyr o bob oedran i fod yn hyfedr a hyderus wrth ddefnyddio TGCh i gael gwasanaethau ar-lein a helpu i leihau'r materion cludiant ac ynysu sy'n gysylltiedig ag ardaloedd gwledig. Yn yr un modd, gellid cynghori a chynorthwyo busnesau a mentrau cymdeithasol i ddefnyddio TGCh i ddarparu gwasanaethau ar-lein a marchnata eu busnes mewn modd cost effeithiol.

Mae ceisiadau bellach wedi cael eu cyflwyno am y rownd nesaf o arian LEADER. Os daw arian ychwanegol ar gael dan y cynllun hwn yn y dyfodol, caiff ceisiadau am gynigion prosiect ychwanegol eu cyhoeddi ar y wefan hon. Dylai unrhyw un a hoffai drafod syniadau ar gyfer prosiectau posib yn y dyfodol gysylltu â Thîm y CDG.

Ydych chi'n gymwys i wneud cais? Atebwch ychydig gwestiynau byr i gael gwybod!