Themâu Adfywio CNPT
Regenerate NPT Priority Themes
Adeiladu ar asedau corfforol, cymdeithasol a diwylliannol unigryw CNPT, gan wella delwedd CNPT fel lle da i fyw a gwneud busnes ynddo gyda chymunedau bywiog a chynaliadwy ac ansawdd bywyd uchel

Manteisio i'r eithaf ar botensial yr economi werdd yng Nghastell-nedd Port Talbot gan gynnwys datblygu pob agwedd ar ynni adnewyddadwy ar lefel gymunedol a hyrwyddo eco-dwristiaeth.

Creu amgylchedd mentrus sy'n cynnal ac yn annog twf busnesau cymdeithasol a bach, newydd a phresennol yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Gwella mynediad i wasanaethau sylfaenol, gan ystyried ffyrdd newydd, blaengar a chynaliadwy o gefnogi unigolion er mwyn goresgyn rhwystrau a chyflawni eu llawn potensial.
Amcanion Adfywio CNPT:
Cynyddu potensial busnes a chyflogaeth gweithgareddau awyr agored.
Annog cymunedau lleol i gymryd ymagwedd weithgar at wella'u hamgylchedd lleol.
Cynnig gwasanaeth cefnogi i fentrau twristiaeth wledig gan gynnwys rhwydweithio, hyrwyddo a chefnogaeth datblygu i wella profiad ymwelwyr.
Cynyddu defnydd o gynnyrch lleol i ychwanegu gwerth a byrhau cadwyni cyflenwad.
Annog a chefnogi ffermwyr lleol i ddatblygu cyfleoedd busnes anamaethyddol.
Annog a chefnogi datblygiad mentrau newydd yn CNPT.
Nodi ffyrdd newydd a blaengar o oresgyn rhwystrau cludiant lleol.
Nodi cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau'r cyngor a fyddai o fudd wrth eu cyflwyno yn y gymuned a chanddi.
Darparu hyfforddiant i breswylwyr gwledig ddatblygu lefelau sgiliau i fynd i'r afael â bylchau a nodwyd.
Sicrhau cefnogaeth gymunedol ar gyfer mwy o ffynonellau ynni adnewyddadwy.
Archwilio ffynonellau tanwydd eraill ar gyfer cludiant cymunedol Cynyddu ecsbloetio band eang cyflym iawn gan holl aelodau cymuned wledig.
Math o Gamau Gweithredu i'w Cefnogi:
• Llunio astudiaethau dichonoldeb mewn perthynas â chreu llwybrau cerdded/beicio â thema
• Llunio cynllun gweithredu ar gyfer datblygu llwybrau cerdded/beicio newydd
• Datblygu rhwydweithio a chydweithio busnes i gefnogi'r uchod
• Profi dichonoldeb ‘aps’ ar gyfer dyfeisiau symudol – ar gyfer cerdded a beicio
• Cynnal digwyddiadau megis treiathlonau a marathonau
• Profi dichonoldeb pecynnau gwyliau sy'n cysylltu busnesau mewn perthynas â beicio mynydd
• Datblygu deunydd hyrwyddo mewn perthynas â mynediad i'r amgylchedd naturiol ar gyfer twristiaeth
|
Ffit Strategol - CNPT Gwyrdd, Bywiog a Mentrus
|
• Darparu cyrsiau hyfforddi i wirfoddolwyr
• Hysbysebu cyfleoedd gwirfoddoli yn ein hardaloedd gwledig trwy ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol
• Profi dichonoldeb ‘aps’ ar gyfer dyfeisiau symudol o gyfleoedd gwirfoddoli
• Cyflwyno prosiectau sy'n ymwneud â gwelliannau amgylcheddol
• Cynnig cyfle i drosglwyddo gwybodaeth am sgiliau amgylcheddol
• Cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol cyfranogwyr prosiectau
• Cynyddu gwybodaeth gymunedol am adnoddau amgylcheddol lleol
|
Ffit Strategol - CNPT Gwyrdd a Bywiog
|
• Darparu cefnogaeth ddatblygu i fentrau newydd sy'n ymwneud â thwristiaeth
• Creu cyfleoedd ar gyfer rhwydweithio rhwng mentrau sy'n ymwneud â thwristiaeth
• Creu pecynnau gweithgareddau mewn partneriaeth â mentrau amrywiol
|
Ffit Strategol - CNPT Mentrus
|
• Sefydlu ymgyrch hyrwyddo ar gyfer bwyd lleol a darparu cynllun/cefnogaeth gwobrau
• Cynnig cyfleoedd i rwydweithio ymhlith cynhyrchwyr lleol a manwerthwyr
• Ymchwilio i gynhyrchion bwyd newydd a'u peilota
• Peilot gweithgaredd hyfforddi i fod yn sylfaen ar gyfer mwy o brosesu a defnydd bwyd a diod
• Peilota cynlluniau hyfforddi i breswylwyr sy'n dymuno tyfu eu llysiau eu hunain
• Cynnal digwyddiadau cynhyrchwyr lleol
|
Ffit Strategol - CNPT Bywiog a Mentrus
|
• Darparu cefnogaeth ddatblygu gynfasnachol i ffermwyr sydd am arallgyfeirio i weithgareddau anamaethyddol
• Cynnal digwyddiadau sy'n rhannu arfer gweithgareddau arallgyfeirio ffermydd
• Darparu marchnata rhyngrwyd a hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol i ffermwyr ddatblygu'r sgiliau i hyrwyddo'u busnesau newydd.
|
Ffit Strategol - CNPT Mentrus
|
• Rhannu astudiaethau achos mentrau cymdeithasol llwyddiannus yn y rhanbarth trwy greu cyfleoedd rhwydweithio i entrepreneuriaid cymunedol lleol
• Darparu'r holl agweddau ar gyfer mentrau cymdeithasol/gwyrdd newydd, gan gynnwys arbenigedd a mentora parhaus. • Llunio astudiaethau dichonoldeb ar gyfer mentrau cymdeithasol/gwyrdd posibl
• Datblygu strategaeth gynaliadwy ar gyfer nodi safleoedd tir llwyd i ddatblygu safleoedd busnes newydd.
• Canfod a rhannu arfer da prosesau cynllun iawndal amgylcheddol a bioamrywiaeth
|
Ffit Strategol - CNPT Mentrus
|
• Peilota cynlluniau newydd blaengar i ddarparu mwy o opsiynau cludiant
• Hyrwyddo cynlluniau newydd ar gyfryngau cymdeithasol i dargedu pobl ifanc, (NEET yn benodol)
• Cynnal astudiaethau dichonoldeb o ddarpariaethau llwybr newydd a'r ardaloedd sy'n cael yr effaith waethaf
|
Ffit Strategol - CNPT Hygyrch
|
• Nodi gwasanaethau allweddol y cyngor yn y fwrdeistref sirol wledig y gellid eu rhoi ar gontract allanol ac o bosibl eu darparu gan fentrau lleol a chymunedol
• Cynllunio cyflwyno gwasanaethau anstatudol gan y gymuned
• Nodi lleoliadau posibl ar gyfer canolfannau cymunedol
|
Ffit Strategol - CNPT Hygyrch
|
• Cynnal ymchwil i'r cyfleoedd cyflogaeth allweddol yn CNPT
• Llunio cynllun gweithredu sy'n manylu ar y sgiliau penodol sy'n ofynnol gan weithwyr a'r ffordd orau o weinyddu hyfforddiant
• Targedu pobl NEET yn benodol trwy gynnwys pobl ifanc yn y perygl mwyaf o dangyflawni
• Cynnal prosiect peilot i gynyddu ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o ddyledion personol
|
Ffit Strategol - CNPT Hygyrch a Mentrus
|
• Creu gwasanaeth cyflogaeth a mentora cymunedol i fentrau preifat a chymdeithasol lleol reoli recriwtiaid newydd/gwirfoddolwyr/profiad gwaith
• Cynyddu a gwella sgiliau ac adnoddau presennol, i unigolion a chymunedau
• Cyflwyno a datblygu datrysiad digidol deinamig a rhyngweithiol ar gyfer cynnwys y gymuned
• Darparu gwobrau i wirfoddolwyr a fydd yn eu hannog i gyflawni potensial
|
Ffit Strategol - CNPT Hygyrch
|
• Cynnal ymgynghoriad cymunedol helaeth
• Dadansoddiad o'r opsiynau i nodi safleoedd posibl
• Rhoi gwybodaeth i gefnogi mabwysiadu ffynhonnell ynni adnewyddadwy
• Peilotau ar gyfer gosodiadau bach a gwerthuso cyfnod ad-dalu a photensial incwm cymunedol
• Ymchwilio i fentrau eraill ar y cyd rhwng sefydliadau cymunedol a chwmnïau ynni adnewyddadwy
• Cynnig gwasanaeth cefnogi i ddatblygu ynni cymunedol
|
Ffit Strategol - CNPT Gwyrdd
|
• Ymchwilio i ffynonellau tanwydd cludiant eraill gan ddefnyddio enghreifftiau arfer gorau
• Peilota cynllun cludiant cymunedol biodanwydd, ailgylchu olew aelwyd ac olew coginio masnachol o gymunedau gwledig
|
Ffit Strategol - CNPT Gwyrdd a Hygyrch
|
• Creu map o'r holl ardaloedd heb fynediad i ddarpariaeth ddigidol gyflym
• Cynnal arolwg o'r holl fusnesau mewn ardaloedd heb gyflenwad i fesur defnydd posibl
• Defnyddio sefydliadau cyhoeddus i sbarduno cyflenwad gwell
• Cynnal astudiaeth dichonoldeb o wasanaethau'r cyngor y gellid eu symud ar-lein
• Cynnal cyrsiau i gynyddu defnydd o farchnata rhyngrwyd/gyfryngau cymdeithasol gan fusnesau gwledig
• Nodi lleoliadau posibl (neuaddau pentref/tafarnau etc.) a chost darparu canolfannau digidol
• Nodi adeiladau a dodrefn stryd addas y cyngor i leoli wi-fi cyhoeddus mewn ardaloedd twristaidd
• Darparu mynediad i gyfleusterau technoleg fodern a chefnogaeth ac arweiniad i'r holl breswylwyr mewn ardaloedd anghysbell
• Darparu cyfleoedd hyfforddi i breswylwyr gwledig fwyafu defnydd o'r galedwedd TG bresennol
|
Ffit Strategol - CNPT Hygyrch a Mentrus
|