Ydych chi'n gwmwys am LEADER?

Atebwch y cwestiynau canlynol i gael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am arian o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG)

A ydych yn ymwneud â menter fusnes leol neu grŵp cymunedol sefydledig?

A yw'r grŵp neu'r busnes hwnnw'n cynnal ei weithgareddau yn un o'r Wardiau Gwledig sy'n gymwys?

 A oes angen arian refeniw* ar y grŵp neu'r busnes hwnnw ar gyfer prosiect lleol?

Os ateboch yn GADARNHAOL i BOB UN o'r uchod, a fyddai'r prosiect yn:

 1. gwella'r canfyddiad o Gastell-nedd Port Talbot fel lle da i fyw a chynnal busnes? Fywiog

 2. cynyddu'r potensial ar gyfer yr economi werdd yng Nghastell-nedd Port Talbot? Gwyrdd

3. creu ac annog twf cyfleoedd busnes newydd yng Nghastell-nedd Port Talbot? Mentrus

4. gweithio i wella gwasanaethau sylfaenol a chefnogi unigolion i oresgyn rhwystrau? Hygyrch

Yn olaf, a yw'r prosiect yn:

  • annog preswylwyr lleol i gymryd ymagwedd weithredol at wella'u hamgylchedd a/neu hwyluso lefelau uwch o dwristiaeth?
  • archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol?
  • cynlluniau peilot sy'n cyfrannu at ddatblygu ardaloedd gwledig mewn modd cynaliadwy?
  • annog ac yn cefnogi preswylwyr i fagu hyder wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein?

Os ateboch yn GADARNHAOL i rai o'r cwestiynau uchod, gallai eich grŵp neu'ch busnes fod yn gymwys i dderbyn arian LEADER o dan y Rhaglen Datblygu Gwledig.

Edrychwch ar rai o'r prosiectau sydd wedi'u hariannu hyd yma dan y pennawd Prosiectau 2015 - 2016

SYLWER: Ar gyfer pob prosiect LEADER ni fydd yr uchafswm o gyfraniad gan y rhaglen yn fwy nag 80% o gyfanswm costau’r prosiect. Fel hyn, rhaid i’r arweinwyr prosiect sicrhau arian cyfatebol am o leiaf 20% ar gyfer pob prosiect.

Darperir arian cyfatebol nail ai drwy arian parod neu gyfraniadau mewn nwyddau. Cyfraniadau mewn nwyddau yw gwasanaethau, eitemau neu gynhyrchion wedi’u rhoddi i’r prosiect gan unigolyn neu sefydliad lle na ddigwyddodd gwerthiant arian parod.

Cymorth Gwladwriaethol: Grwpiau Gweithredu Lleol yn cael eu gwahardd yn benodol rhag rhoi cymorth a fyddai gyfystyr Cymorth Gwladol i unrhyw ymgymeriad a bydd hyn yn cael ei wirio yn y cyfnod Mynegi cychwynnol o Ddiddordeb.

Cysylltwch â'r Tim RhDG am sgwrs anffurfiol a/neu edrychwch ar weddill y wefan hon i ddysgu mwy am y rhaglen.

 (*Arian Cyfalaf: Arian i'w ddefnyddio ar gyfer costau gweithredu prosiectau, megis cyflogau, gwresogi a goleuo.)

Os hoffech gysylltu â ni gyda syniad am brosiect posib, cliciwch: