Adfywio CnPT
Adfywio Castell-nedd Port Talbot yw'r bartneriaeth leol sy'n cyflwyno'r Cynllun Datblygu Gwledig ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Ariennir yr CDG ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd fel rhan o'r Polisi Amaethyddol Cyffredin trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru. Mae wedi bod ar waith ers 2007.
Y term a roddir i'r bartneriaeth yw Grŵp Gweithredu Lleol ac mae'n cynnwys aelodau o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, enw'r GGLl yw Adfywio CNPT ac mae'n gyfrifol am oruchwylio ein rhaglen LEADER leol. Mae'r GGLl yn cynnwys 25 o gynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau yn ardaloedd gwledig CNPT ac mae'n ofynnol i bob GGLl gyflwyno Strategaeth Datblygu Lleol sy'n amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer datblygu, canlyniadau a thargedau ar gyfer cyfnod y rhaglen.
Cyfrifoldebau
Mae Adfywio CNPT yn gyfrifol am drefn lywodraethol a chyfeiriad strategol cyffredinol Cynllun Datblygu Rhanbarthol 2014-2020 yng Nghastell-nedd Port Talbot, drwy ddatblygu a chyflwyno’r Strategaeth Datblygu Leol ar gyfer y cyfnod hwn. Y prif gyfrifoldebau yw.
Sicrhau bod y cyrff gweinyddol a chyflwyno a’u cynrychiolwyr yn gweithio o fewn y fframwaith cyfreithiol a rheoleiddio a bennwyd gan Lywodraeth Cymru.
Llunio Strategaeth Datblygu Leol ar gyfer 2014-2020 drwy ystyried yr anghenion a’r cyfleoedd priodol yn yr ardal o ran pedair thema benodol:
CNPT Mentrus
CNPT Gwyrdd
CNPT Hygyrch
CNPT Bywiog
Datblygu a goruchwylio cyflwyno prosiectau dan y Strategaeth Datblygu Leol.
Dicrhau bod yr SDL yn cyd-fynd yn strategol â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol ac yn mwyafu’r defnydd o ffynonellau ariannu allanol eraill.
Hyrwyddo’r GGLl a’i waith. Hyrwyddo ymagwedd arwain tuag at adfywio.
Cefnogi hyrwyddo materion yn ymwneud â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Cynllun Datblygu Gwledig 2014 - 2020 yn Uned Cymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru
Cliciwch yma am y cyswllt i wefan y Comisiwn Ewropeaidd sy'n ymwneud â Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).
Gellir gweld dogfennau sy'n gysylltiedig â'r GGLl trwy glicio ar y dolenni isod: